Tri rheswm pam y dylai busnesau symud i CNPT

August 9, 2022

Mae arloesedd, ymchwil flaengar, cydweithio a chynaladwyedd yn ganolog i gymuned fusnes amrywiol a bythol ddatblygol Castell-nedd Port Talbot, gan ei gwneud yn lle delfrydol i gwmnïau sefydlu eu hunain, tyfu a ffynnu.

Wrth fynd ati i ddod o hyd i gartref newydd ar gyfer eich busnes, mae llu o resymau pam y dylech ddewis Castell-nedd Port Talbot.

Mae hi wedi cadarnhau ei henw da fel arweinydd byd ym myd gweithgynhyrchu ac mae bellach yn gosod yr agenda ar gyfer datgarboneiddio ac ynni adnewyddadwy, wrth feithrin entrepreuneuriaid a thyfu ei sectorau technoleg feddygol, technoleg, adeiladu a chreadigol.

Ynghyd â hynny, caiff ei hamgylchynu gan gefn gwlad a morlin hardd ac mae mewn lleoliad cyfleus ar hyd coridor yr M4.

Mae’n amlwg bod rhesymau niferus pam y mae cwmnïau’n dewis Castell-nedd Port Talbot dro ar ôl tro, ond dyma’n tair prif fantais y gall Castell-nedd Port Talbot eu cynnig i fusnesau…

Arloesol

Mae gan Gastell-nedd Port Talbot enw da fel hwb arloesedd blaenllaw.

Dros y blynyddoedd, mae ei chymuned fusnes wedi croesawu syniadau a thechnolegau newydd yn gyson ynghyd ag ymchwil dan arweiniad academyddion i sicrhau ei bod yn aros yn flaenllaw o ran cynnydd yn y diwydiant.

Mae Prifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Caerdydd ymysg y sefydliadau academaidd sydd wedi sefydlu eu safleoedd ymchwil yn yr ardal. Mae Castell-nedd Port Talbot hefyd yn gartref i fentrau ymchwil a chanolfannau rhagoriaeth niferus sy’n cydweithio â’r gymuned fusnes o’u cwmpas.

Ei nod yw datblygu cymuned o fusnesau cydweithredol, arloesol, twf uchel mewn sectorau fel deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch, technoleg, technoleg feddygol ac ynni.

Ochr yn ochr â hyn, mae cynaladwyedd bob amser yn flaenllaw wrth iddi ddatblygu’i busnesau, ac mae Castell-nedd Port Talbot yn barod i groesawu’r deiliad cyntaf i’w Chanolfan Dechnoleg ynni positif nodedig ym Mharc Ynni Baglan eleni. Ac mae hefyd yn gartref i Glwstwr Diwydiannol De Cymru (SWIC) sy’n ceisio mwyafu’r budd i’r DU wrth i’r byd newid i dechnolegau glanach.

Wedi’i chysylltu’n dda

O ran cysylltedd â dinasoedd mawr yng Nghymru a Lloegr, ni allai Castell-nedd Port Talbot fod mewn lleoliad gwell.

Fe’i lleolir yn union wrth ochr yr M4 a gall gyrwyr gyrraedd Caerdydd ac Abertawe mewn llai nag awr. Mae hefyd yn cynnig cysylltiadau uniongyrchol â holl ddinasoedd eraill y DU gan gynnwys Llundain a’r de-orllewin, Canolbarth a Gogledd Lloegr drwy’r A465 Ffordd Blaenau’r Cymoedd a’r M50, yr M5 a’r M6.

Gwnaed gwaith helaeth i orsaf drenau Parkway Port Talbot i greu hwb ar gyfer trafnidiaeth gynaliadwy, gan gyfuno llwybrau beicio a cherdded â chludiant cyhoeddus, tra bod gorsaf drenau Castell-nedd hefyd yn darparu mynediad cyflym a rheolaidd i holl ddinasoedd y DU.

Dim ond rhyw 40 munud y mae’n ei gymryd i deithio mewn car i faes awyr Caerdydd, lle cynigir hediadau uniongyrchol i fwy na 50 o gyrchfannau a thros 900 o gysylltiadau. Gellir cyrraedd Maes Awyr Bryste mewn ychydig dros awr, a gellir gyrru i brif faes awyr y DU, sef Heathrow Llundain, mewn tua dwy awr a hanner.

Cefnogaeth

Mae busnesau sy’n dewis ymsefydlu yng Nghastell-nedd Port Talbot yn cael cefnogaeth lawn o’r cychwyn cyntaf.

Diolch i’n hymgyrch “Ar y Blaen ac yn Ganolog i Fusnes” bydd busnesau’n derbyn cyngor manwl ar bopeth, o gael gafael ar gyllid a rhwydweithio i gynllunio, hawlenni ac eiddo posib drwy’r holl sir.

Mae ein pecyn cymorth cyfrinachol, a lansiwyd gan Dîm Datblygu Economaidd Cyngor CNPT hefyd yn helpu i gysylltu busnesau sy’n ystyried symud i ganolfannau rhagoriaeth awdurdodau lleol a sefydliadau partner i’w cefnogi i ymsefydlu a thyfu.

Os oes gennych ddiddordeb mewn symud eich busnes i Gastell-nedd Port Talbot, gallwch gysylltu â ni drwy e-bost business@npt.gov.uk neu 01639 686835