Mae Vortex IoT yn un o’r don newydd o gwmnïau technoleg sy’n cael hyd i gartref yng Nghastell-nedd Port Talbot. Cenhadaeth Vortex yw ‘Monitro’r hyn sy’n bwysig. Gweithredu ble mae’n cyfrif’. Maen nhw’n adeiladu synwyryddion amgylcheddol i fwyafu gwelededd a darparu’r data y mae ei angen ar gwsmeriaid i fedru gweithredu ar ei sail a dechrau gwneud penderfyniadau clyfrach. Mae Castell-nedd Port Talbot eisoes yn elwa o wybodaeth Monitro Ansawdd Aer y gallan nhw weithredu arni.
Yn Abertawe yr oedd y cwmni’n wreiddiol, ond roedden nhw’n gweld Castell-nedd Port Talbot fel lleoliad delfrydol ar gyfer cyfnod nesaf eu datblygiad, ac roedden nhw am fod yn rhan o’r casgliad o gwmnïau sydd wedi crynhoi yma. Mae gwaith cynhyrchu synwyryddion Vortex yn wir yn cwmpasu’r cyfan. O’r dylunio, i’r gweithgynhyrchu, y cydosod, y gosod a darlunio’r data – rydym ni’n gwneud y cyfan ac yn sicrhau ein bod yn darparu’r safon uchaf. Roedd hynny’n golygu bod sicrhau lleoliad priodol i’r swyddfa er mwyn parhau i gyflawni rhagoriaeth yn bwysicach fyth.
Roedd Adrian Sutton, Prif Swyddog Gweithredol a Chyd-sylfaenydd y cwmni, yn sylweddoli bod Cymru yn awr yn cynnig eco-system gref ar gyfer busnesau ifanc, ond fe wnaeth y gefnogaeth a gafodd gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot wahaniaeth mawr.