Sefydlwyd Seven Oaks Modular yn 1996 yn asiedydd pwrpasol, ac mae’n manteisio ar y galw cynyddol am gartrefi ac adeiladau cost-effeithiol, cynaliadwy, carbon isel. Mae ei systemau paneli pren modwlar arloesol, sy’n llesol i’r amgylchedd, wedi cael eu defnyddio mewn nifer o brosiectau preswyl, masnachol ac addysgiadol pwysig ar draws Cymru a Lloegr.
Nid dim ond eu cynhyrchion sy’n wyrdd – mae cynaliadwyedd yn greiddiol i holl waith Seven Oaks. Mae’r cwmni wedi buddsoddi miliynau o bunnoedd yn adfywio ffatri eiconig Metal Box yng Nghastell-nedd, er mwyn creu cyfleuster gweithgynhyrchu â’r cyfleusterau diweddaraf oddi ar y safle. Gwresogir y safle gan foeleri biomas, sy’n cael eu cyflenwi gan danwydd pren gwastraff. Mae ganddyn nhw gynlluniau hefyd i osod system paneli solar ar y to, fel bod y ffatri’n gwbl hunangynhaliol o ran ynni.
Nid yw Prif Swyddog Gweithredol Seven Oaks, Jonathan Hale, yn tanbrisio manteision cefnogaeth llywodraeth leol a chenedlaethol i fusnesau a’r amgylchedd ehangach.