O’r pencadlys ym Margam, mae Rototherm wedi gweithgynhyrchu offeryniaeth fanwl gywir, yn mesur pethau fel tymheredd, gwasgedd, dwysedd a llif ers 1969. Mae’n cyflenwi i ystod o gwsmeriaid ar draws y byd yn y diwydiannau ynni, diodydd, LPG, ffarmacolegol, gofal iechyd, dŵr, trafnidiaeth ac amddiffyn.
Ym mis Mawrth 2020, ymatebodd y cwmni i alwad gan ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru i gynhyrchu tariannau wyneb, wrth i COVID-19 ymledu ar draws y byd. O fewn 6 wythnos, roedd yn cynhyrchu 250,000 yr wythnos, a ganed RotoMedical. Bellach, dyma weithgynhyrchydd mwyaf masgiau wyneb meddygol yng Nghymru, gyda chapasiti o 13 miliwn uned y mis, ac ar hyn o bryd, nhw yw’r unig weithgynhyrchydd yn y Deyrnas Unedig ar gyfer gogls diogelwch, mewn partneriaeth â’r brand sbectol Bollé.
Prynodd Oliver Conger a’i frawd y cwmni ryw 10 mlynedd yn ôl. Mae ei brofiad o effeithlonrwydd y tîm yng Nghyngor Castell-nedd Port Talbot a’u parodrwydd i ymateb yn golygu ei fod yn gwbl sicr y bydd y cwmni’n aros yn yr ardal.