Mae WCPC, canolfan ragoriaeth arall ar Gampws y Bae, Prifysgol Abertawe, yn arweinydd byd-eang ym maes ymchwil a datblygu prosesau printio a chaenu, gydag arbenigedd penodol mewn prosesau sgrîn fflecsograffig, lithograffig, roto-ysgythru, digidol, printio pad a phrintio 3D.
Ym maes Electroneg Brintiedig, mae’r Ganolfan wedi cael ei chydnabod yn un o 5 canolfan ragoriaeth yn unig sy’n bodoli yn y Deyrnas Unedig, ac mae’n arbenigo mewn printio cydrannau dargludol a swyddogaethol. Mae’r ganolfan hefyd yn canolbwyntio ar feysydd Graffeg a Phecynnu a Meddygol a Biodechnoleg, lle mae’n defnyddio atebion printio i fas-gynhyrchu dyfeisiau meddygol.