Mae Canolfan Dechnoleg TWI (Cymru) yn arbenigo mewn datblygu a chymhwyso’r dulliau Profi Annistrywiol diweddaraf. Mae’n darparu atebion byd go iawn wedi’u teilwra ar gyfer ystod eang o ddiwydiannau megis awyrofod, petrocemeg, trafnidiaeth ffordd a rheilffordd, ynni a gofal iechyd. Ceir hyd i’w gyfleusterau yn y pentref Ymchwil a Datblygu gwerth miliynau lawer o bunnoedd ym Mharc Busnes Glannau’r Harbwr.
Mae’r technolegau profi yn cynnwys:
- Profion uwchsain confensiynol a throchi
- Profion uwchsain lefel uwch
- Modelu ac efelychu
- Radiograffeg ddigidol a ffilm
- Radiograffeg microffocws
- Tomograffeg gyfrifiadurol
- Cerrynt trolif, gan gynnwys araeau ceryntau trolif
- Thermograffi pwls
- Canfod diffygion dan yr wyneb â laser (shearography)
- Archwilio geometreg gymhleth â robotiaid ac yn awtomataidd
- Datblygu meddalwedd gymhwyso unigryw
- Archwilio cyfansoddion