Dyfodol ynni cynaliadwy, fforddiadwy a diogel Gweledigaeth y Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni yw ‘pontio i ddyfodol ynni cynaliadwy, fforddiadwy a diogel’
Mae ESRI mewn sefyllfa i gyflawni’r nod hwn trwy ddarganfod technolegau newydd a’u rhoi ar waith ar gyfer dyfodol cynaliadwy, fforddiadwy a diogel. Mae’r term ‘diogelwch’ yn cael ei olygu yng nghyd-destun cyffredinol diogelwch y cyflenwad, cynaliadwyedd tymor hir a diogelwch gweithrediadol.
Mae’r sefydliad, sy’n rhan o Gampws y Bae Prifysgol Abertawe, yn darparu amgylchedd eithriadol ar gyfer cyflawni ymchwil flaengar ar draws ystod eang o ddisgyblaethau sy’n ymwneud ag ynni a diogelwch ynni.